Pan mae rhieni yn ysgaru neu yn gwahanu, mae'n gallu bod yn gyfnod emosiynol heriol i'r plant ac i'r oedolion dan sylw. Fodd bynnag, mae'n hanfodol i rieni flaenoriaethu lles eu plant, ac i leihau effaith negyddol y gwahaniad arnynt. Dyma ychydig o ganllawiau i rieni ar sut i ymddwyn i gefnogi eu plant yn ystod yr amser anodd yma: Cyfathrebiad agored a gonest cyson:
Byddwch yn onest gyda'ch plant am y sefyllfa, gan osgoi rhannu manylion diangen neu ddefnyddio eich plant fel carreg ateb ar gyfer rhywstredigaethau eich hunain.
Annogwch eich plant i fynegi eu teimladau, pryderon, a chwestiynnau. Gwrandewch yn astud a chynnig cysur.
Gwahanu'r plant oddi wrth unrhyw wrthdaro:
Peidiwch ffraeo na thrafod pethau trwm oflaen y plant. Dewisiwch gofod breifat, niwtral ar gyfer y sgyrsiau yma.
Cyflwynwch penderfyniadau rhianta a disgyblu mewn undod, hyd yn oed os ydych yn anghytuno ar faterion eraill.
Creuwch amserlen cyson:
Mae plant yn ffynnu gyda threfn a chysondeb. Gweithiwch gyda'ch cyn-bartner i sefydlu patrwm ymweliadau, ysgol, a gweithgareddau sy'n aros yn gyson.
Parhewch i gynnal ymdeimlad o normalrwydd a sefydlogrwydd ym mywydau eich plant, hyd eithaf eich gallu.
Anog perthynas bositif gyda'r rhiant arall: (Dim: Sefyllfaoedd o niwed neu gamdrin)
Hyrwyddwch berthynas cariadus, iach rhwng eich plentyn a'i rhiant arall. Anogwch ymweliadau, a dangoswch agwedd barchus tuag at y rhiant arall.
Peidiwch a siarad yn wael am y rhiant arall oflaen eich plentyn.
Ceisiwch gymorth broffesiynol:
Os yw'r ysgariad yn anodd tu hwnt, neu mae'ch plant yn gweld hi'n anodd dygymod, ystyriwch ymweld â therapydd neu gwnselydd i'w helpu i brosesu eu emosiynau a chynnig canllawiau i chi fel rhieni hefyd.
Edrychwch ar ol eich hunain:
Mae hunan-ofal yn hanfodol yn ystod y cyfnod heriol yma. Mae rhieni sy'n iach yn gorfforol ac yn emosiynol yn gallu darparu cefnogaeth gwell i'r plant.
Estynwch allan i ffriniau, teulu, neu grwpiau cymorth am gefnogaeth emosiynol.
Canolbwyntiwch ar beth sydd orau i'r plant:
Gwnewch bob penderfyniad ac ymddygiad personol er mwyn eich plant. Gall hyn olygu cyfaddawdu ar ambell i beth a rhoi gwahaniaethau chi a'ch cyn-bartner o'r neilltu er lles eich plant.
Byddwch yn hyblyg a hapus i addasu:
Gall bywyd fod yn wahanol iawn ac yn heriol ar ôl ysgariad. Byddwch yn hyblyg ac yn fodlon i addasu trefniadau gwarchodaeth, neu elfennau gwahanol cyd-rianta, fel mae'r angen yn codi - er lles eich plant.
Parchu trefniadau cyfreithiol:
Anrhydeddwch cytundebau gwarchodaeth ac ymweliad a orchmynnir gan y llys. Os oes angen addasu rhain, dilynwch gweithdrefnau cyfreithiol er mwyn gwneud newidiadau.
Byddwch yn amyneddgar:
Mae'r cyfnod addasu yn gallu bod yn heriol i'r plant, ac i chi fel rhieni. Byddwch yn amyneddgar ac yn rhesymol wrth i'ch plant ddygymod gyda theimladau a threfn bywyd newydd, ac addasu i ddynameg teuluol newydd.
Cofiwch, mae sefyllfa pob teulu yn unigryw ac efallai na fydd yr un peth yn gweithio i ddau deulu gwahanol. Mae'n bwysig teilwra eich ymagwedd ar gyfer anghenion ac amgylchiadau penodol eich teulu chi. Mae gwersi cyd-rianta a chyfryngu proffesiynol yn gallu cynnig arweiniad gwerthfawr i rieni sy'n byw trwy ysgariad neu gwahaniad.

@Ease Creative Integrative Therapies with Val Phillips 2023
Comments