Ymddygiadau gwenwynig, neu 'toxic behaviours', yw gweithredoedd neu agweddau a all fod yn dal chi'n ôl, yn ddinistriol, neu'n niweidiol i chi'ch hun neu i eraill. Gallant ddod i'r amlwg mewn gwahanol ffurf a chyd-destunau, ond dyma rhai enghreifftiau cyffredin:
Trin Emosiynol: Ceisio rheoli neu ddylanwadu ar eraill trwy dwyll, gwasgu ar gydwybod rhywun, neu chwarae gemau meddwl.
Anonestrwydd: Celwydd, cadw gwybodaeth, neu bod yn dwyllodrus, sy'n torri ymddiriedaeth mewn perthynas.
Cyfathrebu Negyddol: Gall beirniadaeth gyson, bychanu, neu gam-drin geiriol fod yn hynod niweidiol.
Cenfigen ac Eiddigedd: Teimlo'n ddig neu'n genfigennus o lwyddiannau eraill, gan arwain at gystadleuaeth cas neu danseilio.
Ymosodedd-Goddefol: (Passive Aggression) Mynegi atgasedd neu ddicter yn anuniongyrchol, yn aml mewn ffordd cyfryws neu gudd.
Pwyntio Bys: Gwrthod cymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd a beio eraill yn gyson yn lle hynny.
Anoddefiad a Rhagfarn: Gwahaniaethu yn erbyn eraill ar sail hil, rhyw, crefydd, neu unrhyw nodwedd arall.
Rheoli Ymddygiad: Ceisio dominyddu neu ficroreoli gweithredoedd a phenderfyniadau eraill.
Diffyg Empathi: Diystyru neu teimlo difaterwch ynghylch teimladau, emosiynau neu anghenion pobl eraill.
Hunanoldeb: Rhoi blaenoriaeth i'ch hun yn gyson heb ystyried yr effaith ar eraill.
Mae cydnabod yr ymddygiadau hyn yn hanfodol ar gyfer twf personol a chynnal perthnasoedd iach. Mae'n bwysig mynd i'r afael â newid yr ymddygiadau hyn trwy hunanfyfyrio, ceisio cymorth neu therapi os oes angen, a gwneud penderfyniad cydwybodol i ymarfer ffyrdd iachach o ryngweithio â chi'ch hun ac eraill.
Nawr, gadewch i ni edrych ar hunan-danseilio (self-sabotage), sy'n cyfeirio at ymddygiadau neu weithredoedd sy'n rhwystro cynnydd, llwyddiant neu les personol yn ymwybodol neu'n anymwybodol. Mae'n batrwm cymhleth sy'n aml yn deillio o ofnau, ansicrwydd, neu hunan-ganfyddiadau negyddol sy'n bodoli o dan yr arwyneb. Dyma rhai mathau cyffredin o hunan-danseilio:
Oedi: Gohirio tasgau neu goliau pwysig, gan arwain at golli cyfleoedd neu fwy o straen.
Siarad Negyddol: Hunan-feirniadaeth gyson neu danseilio galluoedd dy hun, a all effeithio ar hyder a chymhelliant.
Ofn Llwyddiant neu Fethiant: Teimlo'n annheilwng o lwyddiant neu ofni'r cyfrifoldebau a ddaw yn ei sgîl. Yn yr un modd, gall ofni methiant arwain at osgoi risgiau neu gyfleoedd.
Cuddio/Cwato: Osgoi heriau neu sefyllfaoedd a allai arwain at dŵf personol neu newid, gan aros mewn cornel fach gyfarwydd er gwaethaf gwybod ei fod yn cyfyngu ar dy gynnydd.
Perffeithrwydd: Gosod safonau afrealistig a chael eich parlysu gan ofn gwneud camgymeriadau, gan arwain at ddiffyg gweithredu neu diffyg bodlonrwydd wrth gwblhau.
Hunan-feddyginiaeth: Defnyddio sylweddau niweidiol neu dod yn gaeth i sylwedd/ymddygiad er mwyn ymdopi â straen neu emosiynau, a all atal cynnydd pellach.
Gorfeddwl: Mynd yn sownd mewn cylch o or-ddadansoddi sefyllfaoedd, gan arwain at ddiffyg penderfyniad neu wneud dewisiadau gwael oherwydd amheuaeth gormodol.
Mae deall achosion dwfn hunan-danseilio yn hanfodol i fynd i'r afael â'r ymddygiadau hyn a'u goresgyn. Yn aml mae angen hunan-fyfyrio, adeiladu hunanymwybyddiaeth, ac ymarfer hunan-dosturi. Mi all geisio cefnogaeth gan ffrindiau, mentoriaid, neu weithwyr proffesiynol fel therapyddion neu hyfforddwyr hefyd roi arweiniad ar dorri'r patrymau hyn a meithrin arferion a chredoau iachach ynghylch hunan-danseilio.
Mae gallu adnabod, gweithio trwy, a goresgyn ymddygiadau gwenwynig a hunan-danseilio yn cynnig ryddhad ac yn brofiad gwerthfawr, mae'n daith barhaus tuag at fywyd mwy cytbwys a llesol.

@Ease Creative Integrative Therapies with Val Phillips 2024
留言