Mae hylendid cwsg a thechnegau ymlacio yn ddarn hanfodol o wella safon dy gwsg. Dyma ychydig o strategaethau a tips a gyfer cefnogi dy hun wrth ymlacio ac i hyrwyddo hylendid cwsg da:
Sefydlu Amserlen Cwsg Cyson: Cer i'r gwely a chodi o'r gwely yr un amser bob dydd, hyd yn oed ar benwythnosau. Bydd hyn yn helpu cloc mewnol dy gorff i reoleiddio.
Creu Trefn Amser Gwely Ymlaciol: Datblyga weithgareddau cyn-cwsg ymlaciol fel darllen, mynd am fath cynnes, neu ymarferion ymlacio.
Cyfyngu Faint Ti'n Edrych ar Sgriniau Cyn Gwely: Mae'r golau glas sy'n cael ei ddisgleirio gan ffonau, tabledi a chyfrifiaduron yn gallu effeithio ar dy gwsg. Osgoi edrych ar sgriniau am oleia awr cyn amser gwely.
Creu Awyrgylch Braf i Gysgu: Gwna'n siwr bod dy ystafell wely yn dywyll, distaw, ac ar dymheredd cyfforddus. Buddsodda mewn matras a chlustogau cyfforddus - mae opsiynau da, llai costus i'w cael ar y we, neu cer i weld beth sydd ar gael yn dy siop nwyddau cartref lleol.
Cyfyngu ar Gysgu'n y Dydd: Os oes angen cwsg arnat ar ganol dydd, tria gadw hyn i amser byr (20-30 munud) a phaid a chysgu rhy hwyr yn y prynhawn.
Cadw Llygaid ar Dy Ddeiet: Ceisia osgoi prydau trwm, caffîn, ac alcohol yn agos at amser gwely, oherwydd maent yn gallu effeithio ar dy gwsg.
Ymarfer Corff Cyson: Cymera ran mewn gweithgareddau ymarfer corff rheolaidd, ond mae'n bwysig anelu i fod wedi gorffen oleia ychydig oriau cyn amser gwely.
Rheoli Straen: Ymarfer technegau ymlacio megis anadlu, myfyrio, neu 'ymlacio cyhyrau cynyddol' i leihau straen. Defnyddia therapi / cwnsela i weithio trwy straen cronig neu hir dymor.
Cyfyngu ar Yfed Hylif Cyn Amser Gwely: Lleihau faint o hylif rwyt ti'n yfed yn yr awr neu ddwy cyn amser gwely, er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o angen deffro i fynd i'r tÅ· bach yn ganol y nos.
Paid Edrych ar y Cloc: Mae gwirio'r amser yn ddibendraw yn gallu achosi gorbryder a'i gwneud hi'n anoddach disgyn i gysgu. Os yn bosib, symud y cloc fel nad wyt ti'n gallu ei weld yn hawdd, neu rho dy ffôn mewn drôr i leihau'r temtashwn i wirio'r amser.
Osgoi Symbylyddion: Mae nicotin a rhai meddyginiaethau yn gallu ymddwyn fel symbylyddion gan effeithio ar gwsg. Ymgynghora â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os wyt ti'n poeni am effeithiau meddyginiaeth ar gwsg.
Sŵn Gwyn neu Synnau Ymlaciol: Mae rhai pobl yn gweld peiriannau sŵn gwyn neu synnau lleddfol (fel tonnau'r môr neu sŵn glaw) yn ddefnyddiol ar gyfer cysgu - gall apiau fel Calm, Spotify a YouTube fod yn ddefnyddiol hefyd, ond bydd yn wyliadwrus o gael dy ffôn symudol neu dabled yn agos wrth geisio cysgu.
Cadw Dyddiadur Cwsg: Tracia dy batrymau cysgu a dy arferion i nodi ffactorau a allai fod yn effeithio'n negyddol ar dy gwsg. Gall hyn dy helpu i wneud addasiadau angenrheidiol. Cofia, efallai y bydd yn cymryd peth amser i weld gwelliannau yn ansawdd dy gwsg, ac mae cysondeb yn allweddol.
Os wyt ti, er gwaetha ymarfer hylendid cwsg da a thechnegau ymlacio, yn parhau i gael trafferth cysgu, mae'n werth ystyried siarad gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu arbennigwr cwsg i gael gwerthusiad ac arweiniad pellach.
@Ease Creative Integrative Therapies with Val Phillips 2023
Comentários