Mae'r cysyniad o "rolau di-fudd" fel arfer yn cyfeirio at batrymau ymddygiad camweithredol neu negyddol gall aelodau o'r teulu fabwysiadu er mwyn ymdopi, yn ôl Theori Systemau Teuluol (a elwir hefyd yn Theori Bowen). Mae'r rolau yma'n gallu amrywio yn fawr, ond dyma engreifftiau cyffredin:
Y Bai (Scapegoat): Dyma blentyn, fel arfer, yn cambihafio mewn ymateb i gamweithred y teulu, ac yna yn cael y bai am broblemau oll y teulu a'u targedu gan feirniadaeth a sylw negyddol.
Y Galluogwr: Dyma riant neu aelod hŷn o'r teulu fel arfer, sy'n ceisio cadw'r ddesgl yn wastad trwy alluogi ymddygiad camweithredol eraill (e.e camdriniaeth sylweddau plentyn) wrth beidio a gosod ffiniau a chanlyniadau. Efallai eu bod nhw'n esgusodi penderfyniadau yr aelod teulu camweithredol hefyd.
Y Rhiant Awdurdodol: Steil rhianta sy'n or-lywodraethol a llym, mae'n gallu magu tensiwn a gwrthryfel o fewn y teulu.
Y Dioddefwr: Aelod o'r teulu sy'n portreadu eu hunain fel y dioddefwr yn gyson, gall hyn arwain at drin emosiynol anheg a diffyg cyfrifoldeb bersonol.
Y Merthyr: Mae'r person yma yn dueddol o aberthu anghenion a llesiant eu hunain er lles y teulu, gan arwain i deimladau chwerw a rhwystredigaeth dros amser.
Yr Achubwr: Mae'r rôl yma fel arfer yn cael ei gyflawni gan aelod o'r teulu sydd ohyd yn camu i'r adwy, yn ceisio trwsio (neu achub) problemau aelodau arall y teulu gan esgeuluso anghenion eu hunain yn y broses.
Y Plentyn Coll: Mae'r plentyn yma yn dueddol o dynnu'n ôl rhag gwrthdrawiadau teuluol ac efallai'n ymbellhau yn emosiynol neu ynysu eu hunain. Mae'r plentyn fel arfer yn troi'n ddistaw, ac yn ceisio osgoi unrhyw wrthdaro trwy fod yn anweledol i ddeinameg y teulu.
Y Gofalwr: Gall plentyn ymddwyn fel y gofalwr, yn gyfrifol am les emosiynol eraill, gan gynnwys eu rhieni.
Yr Arwr: Yn aml, dyma blentyn sy'n ceisio dod a rhywbeth positif i sylw'r teulu trwy ragori neu gor-gyflawni mewn meysydd amrywiol. Mae beio plant mewn teuluoedd camweithredol yn gallu bod yn ffordd i rieni ac aelodau arall o'r teulu wyro eu cyfrifoldebau personol. Rolau cynhenid ydynt, sy'n gallu datblygu dros amser a pharhau anhwylderau teuluoedd camweithredol. Mae'n hanfodol adnabod rolau a phatrymau camweithredol, a cheisio cael cymorth broffesiynol (megis therapi) i gydnabod a newid ymddygiad niweidiol er lles pob aelod o'r teulu.
Tabl Termau
Rolau Di-Fydd - Unhelpful Roles
Camweithredol - Dysfunctional
Teuluoedd Camweithredol - Dysfunctional Families
Camdriniaeth Sylweddau - Substance Abuse
Ffiniau - Boundaries
Dioddefwr - Victim
Trin Emosiynol Anheg - Emotional Manipulation
Rolau Cynhenid - Ingrained Roles

@Ease Creative Integrative Therapies with Val Phillips 2023
Comments